Pages

24.5.25

Y Gymdeithas Hanes -Apêl Heddwch

Daeth Iona Price, Tanygrisiau atom ym mis Mawrth i roi sgwrs hynod ddiddorol ar Apêl Heddwch Merched Cymru 1923-24

Aeth dros gan mlynedd heibio ers i ferched Cymru greu’r ymdrech arwrol hon i ddileu rhyfel, a hyn yn dilyn galanastra'r Rhyfel Mawr pan laddwyd cymaint o fechgyn ifainc Cymru yn ffosydd Ffrainc a Gwlad Belg.

Yn 1923, gydag erchyllterau’r Rhyfel Mawr wedi ysbrydoli cenhedlaeth yn erbyn gwrthdaro o’r fath, trefnodd merched Cymru ymgyrch nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen dros heddwch byd. Llofnododd 390,296 o ferched ddeiseb goffa drwy Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yn galw am ‘Gyfraith nid Rhyfel’ – i America ymuno, ag arwain Cynghrair y Cenhedloedd newydd – drwy apelio at ferched America ‘o gartref i gartref’.

Crëwyd Llyfr Coffa hyfryd mewn lledr a memrwn ac arno lythrennau aur. Fe’i cynhyrchwyd gan Wasg Gregynog, y chwiorydd Gwendoline Davies a Margaret Davies Hefyd, saernïwyd cist dderw fawr. 

Roedd yn cynnwys yr holl lofnodion i’w gyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, a’i gadw yn yn Sefydliad y Smithsonian yn Washington. Roedd ymgyrch Deiseb Heddwch Merched 1923 yn ymdrech ryfeddol ac yn cynnwys bron pob cartref yng Nghymru, gydag ymgyrchwyr heddwch yn mynd o ddrws i ddrws, gyda chymorth trefnwyr sir a chymuned y ‘Gynghrair’. Nododd y wasg yn Efrog Newydd fod y ddeiseb derfynol a gyflwynwyd i ferched America yn fwy na 7 milltir o hyd!

Bu gwragedd yn America wrthi'n brysur yn gwneud trefniadau i roi cyhoeddusrwydd i'r ddirprwyaeth. Prawf o ddoethineb dewis Annie Hughes Griffiths, Cadeirydd Cynghrair y Cenhedloedd Cymru, yn dal Cofeb Heddwch Menywod Cymru, i arwain y ddirprwyaeth oedd y derbyniad a gafodd ei hanerchiad i'r dorf: anerchiad a draddododd sawl gwaith i wahanol gymdeithasau yn ystod y daith, oherwydd nid Efrog Newydd oedd yr unig gyrchfan, gan y trefnwyd i'r gwragedd deithio wedyn i Washington, ac i'r Tŷ Gwyn, i gyfarfod â'r Arlywydd Coolidge. 

Dylid pwysleisio mai prif bwrpas y daith a'r ddeiseb oedd cysylltu menywod Cymru â menywod America. Naws anffurfiol oedd i'r cyfarfod gyda’r Arlywydd, ac yr oedd y trefnwyr yn awyddus i bwysleisio mai digwyddiad anwleidyddol ac amhleidiol ydoedd.

Teithiodd y ddirprwyaeth o Gymru i America ym mis Mawrth 1924 a chafodd gefnogaeth sefydliadau merched America oedd yn cynnwys rhagor na 20 miliwn o bobl.

Un o’r eitemau mwyaf a drysorir yn Archifau’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd yw Deiseb Heddwch y Merched, ochr yn ochr â chasgliadau gan Gynghrair y Cenhedloedd. 

Trosglwyddodd Iona y cyfarfod i Gareth Jones, Cadeirydd y Gymdeithas oedd wedi bod wrthi yn gwneud ei ymchwil ei hun i’r gefnogaeth a gafodd y Ddeiseb yn y Blaenau a’r Llan.

‘… es i chwilio ar y wefan am enwau a rhyfeddu at yr enwau a ddaeth i’r golwg ac fe heliais dipyn at ei gilydd. Roedd nifer fawr o enwau o’r Blaenau ac yn eu plith nifer o wragedd oedd yn dilyn yr arfer o ddefnyddio enwau eu gwŷr ac felly yn anodd eu hadnabod! 

Ond ceid enwau megis Miss Hughes, Yr Erw yn y Sgwâr; mam Merêd sef Charlotte Evans, Bryn Mair, Tanygrisiau; S. Lloyd, mam y Parch O.M.Lloyd a Catarina Paganuzzi (pawb yn cofio’r siop hufen iâ'r teulu ar y Stryd Fawr); Miss Brymer, Darbod, sef Siop Brymer lle mae’r Eglwys Gatholig rŵan, ac yn byw gyda hi oedd Ann Beale; Laura Davies, Siop y Gloch ac yn ddiddorol ei gŵr hi oedd yn hebrwng hogiau ifanc yr ardal i fynd i ryfel  - tybed beth oedd ef yn ei feddwl fod ei wraig wedi arwyddo'r ddeiseb hon?! Daeth dau enw o deulu Vaughan, Plas Tanymanod a hefyd Lady Newborough oedd yn byw yng nghartref y teulu ym Mryn Llywelyn.

Roedd nifer fawr o’r merched yn famau oedd wedi colli plant yn y Rhyfel Mawr ac yn awyddus i ddangos eu cefnogaeth i heddwch oedd wedi costio’n ddrud iawn i’r merched hyn.
Ym Mhantllwyd, Llan roedd Jini Owen yn byw a fu unwaith yn canlyn Hedd Wyn ac fe arwyddodd hithau'r ddeiseb.’

Noson arall i’w chofio yng nghalendr y Gymdeithas a diolch i Iona am ei hymchwil trylwyr.
Tecwyn Vaughan Jones

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025

Nid dim ond ymchwilio i'r hanes wnaeth Iona, ond roedd hi'n allweddol yn yr ymgyrch i ddod a'r ddeiseb yn ôl i Gymru. Diolch Iona (Gol.)

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon