Aeth yr heuldro heibio, felly bellach mae mwy o oleuni na thywyllwch yn ein dyddiau o’r diwedd! Amser felly i ninnau dynnu’n pennau o’r pridd a (gobeithio) mwynhau’r heulwen. Penderfynwyd yng Nghyfarfod Mwynderau, y byddai oriau agor haf y Parc rhwng 8 y.b – 10 y.h, ac yn parhau hyd Calan Gaeaf ble fydd yr oriau’n newid yn ôl i 8 y.b – 5 y.h. O hyn ymlaen dyma fydd oriau’r Parc bob blwyddyn. Yn y gorffennol, bu’r oriau’n newid gyda’r clociau, ond er nadu dryswch, penderfynwyd aros gyda’r oriau hyn o hyd. Byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i gael rhoi arwyddion parhaol wrth giatiau’r Parc er gwybodaeth i’r cyhoedd.
Mae pethau’n mynd ymlaen yn dda gyda’r prosiect MUGA [Ardal Chwarae Aml-Ddefnydd] yn y Parc hefyd a disgwylir i’r gwaith gychwyn yn fuan. Mae’n debygol y bydd ychydig o fân anawsterau i’r cyhoedd, ond tydi’r Cyngor ddim yn rhagweld y bydd rhaid cau’r Parc am unrhyw gyfnod yn ystod y gwaith. Yn anffodus, mae’r caffi wedi cau ar hyn o bryd, ond mae gwaith uwchraddio adeilad Y Pafiliwn yn mynd ymlaen yno.
Deallwyd o adroddiad y Swyddog Caeau Chwarae eu bod mewn cyflwr da ar hyn o bryd ac ar agor i’r plantos. Yr unig waith yw tocio coed wrth gae chwarae Tanygrisiau a doedd dim i’w adrodd gan y Swyddog Cerdded Llwybrau ‘chwaith, felly does dim esgus rhag mynd i grwydro yn yr awyr iach!
Darllenais ganlyniad arolwg yn ddiweddar ble dywedwyd mai dim ond un o bob deg o weithwyr llawn amser oedd yn neilltuo 10 munud y dydd i eistedd allan ym myd natur. Arolwg Brydeinig ydoedd ond go brin fod hyn yn wir i weithwyr ardal mor brydferth a hon gobeithio.
Y Berllan -llun o dudalen FB y Cyngor |
Yn dilyn trafodaeth ac archwiliad mae'r Berllan, ym Mhant-yr-ynn wedi ail-agor i’r cyhoedd. Os nad ydych wedi bod yno eto, mae’n werth ei weld, yn enwedig ar noson braf. Mae’n le heddychlon iawn, a does unman gwell i weld yr haul yn machlud heibio’r Moelwynion ar fin nos. Gorau byd os oes pwt o awel, i gadw’r gwybaid bach i ffwrdd!
Cafwyd wybod gan y Cyng. Elfed Wyn ab Elwyn (Rhiw a Bowydd) fod Cyngor Gwynedd wedi cytuno i osod bin baw cŵn yn Ninas, Rhiw, dim ond i’r Cyngor Tref gytuno i gyfrannu at y costau o’i wagio. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Os ewch am dro at droed inclên y Doman Fawr, fe welwch fod bagiau baw cŵn yn hongian o frigau’r coed fel addurniadau Nadolig! Afiach, pam fod pobol yn gwneud hyn ‘dwch? Ta waeth, y gobaith ydi bydd hyn yn darfod pan fydd y bin yn ei le.
Y prif bethau i’w hadrodd o’r Cyfarfod Arferol oedd bod y Cyngor wedi cytuno i dderbyn cyfrifoldeb dros Diffibrilwr ger Caffi Llyn, Tanygrisiau. Daw hyn a nifer y diffibrilwyr yn yr ardal mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt i chwech.
Derbyniwyd adroddiad, ‘Diweddariad yr Heddlu’. Daeth Dion a Delia o’r Heddlu draw atom i egluro’r sefyllfa diweddaraf yn yr ardal. Dywedwyd fod 90 o achosion troseddol wedi bod yn yr ardal ers y Nadolig.
Bwriedir y Cyngor ddiolch i’r RSPCA am ei gwasanaeth milfeddygol, rhad ac am ddim i’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal ac am ei hannog i barhau gyda’r gwaith.
Mae pethau cyffrous ar y gweill a gobeithio y gallwn rhoi fwy o fanylion i chi dros y misoedd nesaf.Diolch am ddarllen, eich geiriau caredig a’ch ffyddlondeb i’r golofn.
Hwyl am y tro.
DMJ
- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon