7.3.19

Ffermydd Llyn Trawsfynydd

Adroddiad gan y diweddar Jennie Druce am y ffermydd a'r tiroedd a foddwyd i greu Llyn Trawsfynydd:

Dolgam
Roedd y Dolgam gwreiddiol i’r dde o bont y pentref, hyd nes i’r gronfa ddŵr gael ei gwneud. Eiddo'r Goetre, Ganllwyd oedd y fferm a thenantiaid oedd fy rhieni a fy nhaid, sef Richard Jones, cyn hynny.
Trigai fy rhieni, Thomas ac Ellen Jones, fy mrawd John a minnau, fy hanner chwaer Janet a’i brawd Harri yno - roedd Nel a Megan fy nwy chwaer arall wedi priodi. Cadwai fy rhieni dair buwch, dau fochyn, hanner cant o ieir a deg hwyaden. Byddai gan fy nhad injan ddyrnu, un pinc, a byddai’n mynd allan i’r ffermydd i ddyrnu fel byddai ffermwyr ers talwm.

Cof plentyn sydd gennyf o Morris y Muriau yn dod i Ddolgam a gweld yr injan ddyrnu yn barod i fynd allan. Aeth ati pan oedd fy nhad ar fin ei thanio i weld y stêm yn dod ohoni, ond pan daniodd fy nhad yr injan, dychrynodd a rhedeg adref gan sgrechian (mudan oedd Morris). Ychydig wedyn daeth ei dad, sef Emwnt Evans, acw i ddwrdio fy nhad.
Cofiaf hefyd gerdded ar hyd lan Afon Prysor gyda fy mrodyr Harri a John i chwilio am yr hwyaid a cherdded cyn belled â Bryn Hir, croesi’r bont i’r tŷ a chael paned o de a chacen a llond fy mhoced o siwgr clap i ddod adref. Cariodd Harri fi ar ei ysgwyddau bob cam adref. Roedd Jennie a’i brawd Trebor yn byw gyda’u rhieni yn Bryn Hir. Byddai Janet, Harri a Trebor yn ffrindiau, symudodd y teulu i Benmorfa pan aeth y ffarm dan y dŵr.

Llyn Traws, o'r ffridd uwchben Coed y Rhygen. Llun- Paul W
Dolwen
Roedd Dolwen i’r de o’r llyn cyn ei foddi, (lle mae’r maes parcio a’r dam yn awr). Yma roedd Richard Jones a’i wraig a’i merch Mair yn byw. Symudodd y teulu i Lanrwst. Roedd Mair yr un oed â mi.

Brynysguboriau
Disgynyddion o’r un teulu sydd yma o hyd yn ffermio. Mae’r fferm bresennol yn llai na’r gwreiddiol.
                                                   
Caeadda
Lleihawyd y fferm yma hefyd ond disgynyddion o’r un teulu sydd yma.

Ty’n Twll
John Davies a’i deulu oedd yn byw yma, ond aethant i Coed Cau Du i ffermio ac mae disgynyddion iddo yn cario'r traddodiad ymlaen.

Gwndwn
Symudodd Dafydd Davies, ei wraig a’u mab Dic i fyw at eu merch Jennie i Tŷ’n  Llyn.

Y Goppa
John Jones, ei wraig a Gwyneth, eu merch gartrefai yma. Priododd Gwyneth gyda Maldwyn Davies a ganwyd iddynt bump o blant. Mae'r teulu yn dilyn y traddodiad teuluol hyd heddiw.

Pandy’r Ddwyryd
Dau frawd a dwy chwaer oedd yn ffarmio yma. Mae rhai yn dweud y byddai dau gi wedi eu rhwymo i’r fuddai amser corddi ac yn ei throi i gorddi’r menyn. Cof sydd gennyf o weld dim ond y to yn y golwg wrth i’r dŵr grynhoi o gwmpas yr adeilad.

"Lle gynt bu corlan a phladur..." Llun- Paul W

Brynrwy
I Faentwrog aeth y teulu yma – gŵr,  gwraig, dau fab a dwy ferch.

Ty’n Ddôl
Robert Jones, ei wraig a’u mab Ted drigai yma. Symudodd y teulu i Tŷ Nant. Wedi colli ei wraig aeth y ddau i fyw i Gwylan neu Tŷ Gwyn.

Gyfynys
Symudodd y teulu yma i Lan Ffestiniog.

Islaw’r Coed
Daeth y teulu yma i Pen’rallt i fyw.

Hendre Mur a Llwyn Derw

Nid oes cof gennyf beth ddigwyddodd i’r ddau.                                                                                                              

Diddorol ydyw atgofion y diweddar Mrs Jennie Druce yn enwi’r trigolion a orfu adael eu cartrefi o achos y Llyn. Diolchwn i Mrs Margaret Jones, Ffridd Bryn Coch am ganiatâd i ddefnyddio’r nodiadau. -LD
-----------------------------------------    

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y lluniau) yn rhifyn Ionawr 2019, fel rhan o gyfres 'Ffermydd Dalgylch Llafar Bro' Les Derbyshire.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon