30.9.16

Llyfr Taith Nem -Hen bechadur o Feirion


Rhyfedd fel mae crefydd yn dal ei afael mewn dyn ar hyd ei oes. Beth bynnag wnaiff dyn, neu lle bynnag yr aiff, mae yn sicr o ddod i gysylltiad â chrefydd mewn rhyw ffurf neu gilydd. Yn ystod fy niferus deithiau, deuais innau, yr hen bechadur o Feirion, i gysylltiad â chrefydd mewn llawer lle, ac er nad wyf yn grefyddwr bybyr, melus ydyw gweled fod Brenin y Brenhinoedd yn eistedd yn gadarn ar ei orsedd.

Yr wyf yn gwybod yn eitha bod hanes gweddol ddigalon i eglwysi Cymru ar hyn o bryd, ond mae'n debyg mai bywyd esmwyth sy'n gyfrifol i ran helaeth am hynny. Wedi gweled llawer math ar grefydd ar hyd a lled y byd, yr wyf yn credu fod yn hen bryd i Gymru newid peth ar ddull y molianau yn y capeli. Hwyrach fod gormod o seremonio mewn eglwysi, ond yr wyf yn berffaith sicr fy meddwl fod rhy ychydig o seremonio mewn capeli. Yr un drefn ers cyn cof, emyn, darllen, emyn a gweddio, cyhoeddi, emyn, pregeth a'r fendith. Onid gwledd fuasai canu anthemau, pregeth fer a holi dipyn ar y pregethwr ar y diwedd. Credaf hefyd fod oes y codwr canu fel yr adnabyddir ef wedio mynd heibio.

Awd i gostau mawr i brynu offerynnau gwych, ond yr hyn sydd yn digwydd yn aml iawn ydyw rhyw gystadleuaeth rhwng y codwr canu a'r organ, a'r gynulleidfa yn methu gwybod p'run i'w ddilyn. Nid ydyw peth fel hyn yn gynorthwy i greu awyrgylch, ac wedi'r cwbwl, mae awyrgylch briodol yn anhebgorol angenrheidiol i wasanaeth crefyddol.

Cofiaf unwaith i mi aros yn Salt Lake City, cartref y Mormoniaid -Saint y Dyddiau Diwethaf- ac os oes rhywun wedi bod yn y fan honno ac yn methu crefydda, y mae wedi ei ddamnio i golledigaeth dragwyddol, yn reit siwr. Mae'r peth tu hwnt i ddisgrifiad, y gwisgoedd a'r canu yn esgyn dyn i fyny at rhyw binaclau o orfoledd na phrofodd mohonyn gynt nac wedyn.

Cofier, gyda llaw, fod nifer fawr o golofnau y Mormoniaid yn Gymry trwyadl. Cwrddais ac amryw ohonynt tra yn y dre. Gŵr mawr yn eu plith oedd Judge Roberts, teulu'r hwn oedd yn hanu o Lanfrothen. Credaf fod y Barnwr yn gefnder i Bryfdir o Flaenau Ffestiniog, ac mae nifer fawr o'r teulu yn byw yno yn awr. Deallaf i un o'r meibion ymweled â Bryfdir tra yn y fyddin yn ystod y rhyfel diwethaf. Aeth i lawr i Groesor i weled yr anfarwol Bob Owen, a chan y gŵr amryddawn hwnnw cafodd hanes ei deulu o'r amser yr hwyliodd nifer fawr o Feirionnydd am Utah.

Cyn 1907 yr oedd tair mil o egwlysi hollol Gymreig yn yr Unol Daleithiau a Chanada. Magwyd plant ynddynt i fedru siarad yr hen iaith yn berffaith. Yn wir, yn llawer gwell nac ambell Gymro na symudodd erioed o Gymru. Iaith y Beibl Cymraeg oedd ganddynt, ac yr oeddynt yn ymffrostio yn y ffaith eu bod yn gallu siarad iaith enedigol eu cyndadau. Mae rhai, wrth gwrs wedi anghofio eu Cymeigdod, ond mae hynny yn bod hyd yn oed yr Sir Fôn!

Clywais hanesyn un tro am Gymro gweddol ymffrostgar yn yr Amerig, ac fel finnau yn llawn o 'bluff'. Gofynnwyd iddo a allasai bregethu a dywedodd ei fod yn hen law ar y gwaith. Gofynnwyd iddo gymeryd y gwasanaeth mewn capel y Sul canlynol. Un o'r capeli 'neis' oedd hwn, a gwelodd yr hen frawd wendid yr aelodau mewn munud.

Wedi pregethu yn Saesneg am ychydig o funudau, yr oedd yn bur galed ar yr hen frawd i feddwl bod eisiau cario ymlaen am chwarter awr araIl. Ac meddai
"Brothers and sisters, the urge is within me to preach to you in one of the dialects of darkest Africa, and I know the good Spirit will enable you to follow my teachings". 
Dialect Affrica Dywyll oedd Cymraeg, ac yr oedd yr hen frawd mewn hwyl fawr yn dweud pob math o bethau.

Wedi bod wrthi am beth amser sylwodd fod un gŵr yn un o'r seddau cefn yn chwerthin nes oedd yn ysgwyd. Ac meddai'r hen frawd, gan ostwng ei lais yn effeithiol,
"A thi, yr hwn sydd yn chwerthin yn y set ôl, os Cymro wyt ti, cau dy geg, neu byddwn ein dau yn uffern".
----------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 1999.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


28.9.16

Sgotwrs Stiniog- Pysgota’r Sewin

Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans; y gyfres a barodd hiraf yn hanes Llafar Bro.

A ninnau fel sgotwrs wedi cyrraedd mis Medi, sef mis olaf ‘Tymor y Brithyll’ mae’r diddordeb a’r pwyslais yn awr yn symud oddi wrth y llynnoedd a’r brithyll cyffredin, ac ar y sewin, - y brithyll ymfudol, - ac i’r afonydd.  Mae rhai wedi cefnu ar y llynnoedd a throi at yr afon ers rhai wythnosau.

Wrth gwrs nid pob sgotwr sydd â diddordeb mewn mynd i chwilio am sewin - neu gwyniedin fel mae eraill yn ei adnabod, - yn rhai o’r afonydd sydd o fewn cyrraedd.  Ond gall wneud hynny fod yn brofiad newydd a gwahanol, ac hefyd yn brofiad diddorol.
‘Onid her yw galwad hon? 
Rhyfedd yw tynfa’r afon’ 
- meddai D. Gwyn Evans mewn cywydd, - ac mae mynd ar ôl y sewin yn dipyn o ‘her’.

Afon Dwyryd o Bont Maentwrog. Cynefin y sgotwr sewin. Llun Paul W
Yn ddiweddar bum yn pori rywfaint yn llyfr Gaeam Harris a Moc Morgan ar bysgota y pysgodyn enigmatig yma, - sef, ‘Successful Sea Trout Fishing’.  Mae yn llyfr sy’n llawn o awgrymiadau ac o gyfarwyddyd ar sut i fynd ati i ddenu y sewin i’r gawell.  Mae’n ddarllen diddorol.

Pennod y bum i’n aros uwch ei phen am beth amser yw’r un am y plu sy’n cael eu defnyddio, ac am ei hamrywiol batrymau.  Mae dewis pur eang ohonynt.

Un peth y mae’r awduron yn ei bwysleisio yw pwysigrwydd y lliw du sydd ym mhatrymau amryw o’r plu.  (Er mae Kingsmill Moore, awdur y clasur o lyfr ar bysgota’r sewin yn Iwerddon, sef ‘A Man May Fish’, yn dweud mai nid lliw ydi ‘du’ ond absenoldeb lliw).  Pa’r un bynnag am hynny, mae ‘du’ yn amlwg yng nghawiad sawl pluen sydd yn llyfr Harris a Morgan, - un ai yn y corff, y traed, neu yn yr adain.  A chyda’r du mae arian neu wyn yn mynd law-yn-llaw, fel petae.

Ymhlith y plu a ddisgrifir gan y ddau awdur y mae dwy bluen, sydd yn engreifftiau da o hyn, sef y rhai a elwir yn ‘Moc’s Cert’, a ‘Blackie’.  Mae y ddwy yma’n ddu drostynt gydag arian yn gylchau am y corff, a dwy bluen wen oddi ar war ceiliog y gwyllt wedi eu rhoi wrth lygad y bach.  Yn wahanol i sawl pluen sewin arall does dim cynffon gan y naill na’r llall o’r ddwy bluen.

Dyma batrwm y bluen ‘Moc’s Cert’ yn llawn, rhag ofn y bydd o ddiddordeb i rai sy’n mynd ar ôl y sewin ac am roi cynnig arni.

Bach            Maint 4 i 10
Corff            Hanner ôl o arian; hanner flaen o arian llydan amdano
Traed           Ceiliog du
Adain           Blewyn wiwer du, gyda phlu cynffon paun gwyrdd (‘sword’) dros y blewyn wiwer
Bochau        Ceiliog y gwyllt - pluen fechan wen

Mewn colofn papur newydd yr oedd Moc Morgan yn ei chynnal yn ôl yn Chwefror 1987, mae yn disgrifio sut y daeth y bluen arbennig yma i gael ei chreu a’i chawio.  Bu iddo ef a thri neu bedwar o bysgotwyr sewin eiddgar ddod at ei gilydd, ac, wedi cryn dipyn o ddadlau ac ymresymu, o bwyso ac o fesur, o dipyn i beth cytunwyd ar y patrwm uchod.
---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol, fel rhan o erthygl hirach, yn rhifyn Medi 2005.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


26.9.16

Trem yn ôl -Aelwyd yr Urdd

Pegi Lloyd Williams yn dewis erthygl arall o lyfr ‘PIGION LLAFAR 1975-1999’.
Y tro hwn cerdd gan Gwyn Thomas, a gyhoeddwyd yn rhifyn Gorffennaf 1982, ar achlysur ail-agor Aelwyd yr Urdd yn y Blaenau.


I’r sawl sydd â chof i weld y mae
Yn y neuadd hon, ddrylliau a darnau
O ieuenctid cenedlaethau
Yn nofio’n dyner fel yr arian wëau
Neu liwiau di-ri yr addurniadau
A’r balwnau hynny mewn hen ddawnsfeydd.


I’r sawl sydd â chof i weld y mae
Yn y neuadd hon, gadw-reiad a chwarae.
Mae yma atgofion, chwim fel plu badminton;
Mae yma beli gwynion hen egnïon
Yn bownsio eto ar y byrddau;
Mae’r lle’n bing-pong o weithgareddau.

I’r sawl sydd â chof i weld y mae,
Yn y neuadd hon, lu o hen ffrindiau,
Hen gariadon, hen fwynderau –
Maen nhw yma fel drychiolaethau
Addfwyn o’r chwe, y pump, a’r pedwardegau;
I gyd yn dyner – gan hiraeth.

I’r sawl sydd â ffydd i weld fe fydd
Y neuadd hon eto, eto o’r newydd,
Yn datsain gan sŵn ieuenctid;
A bydd yr hen firi, yr hen fwynder i gyd
Yn blaguro eto, yn bywiogi’n wyrdd
Yn neuadd newydd hen aelwyd yr Urdd.





[Lluniau -Paul W, Medi 2016]

-------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1982, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Gorffennaf 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

24.9.16

Gwynfyd -O na fyddai’n haf o gwbl

Ymddangosodd cyfres 'Gwynfyd' am dair, bedair blynedd yn y nawdegau, yn trafod bywyd gwyllt a llwybrau troed ein bro. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1998, yn cwyno am haf sâl arall!

O’r diwedd daeth ychydig o welliant yn y tywydd yn ystod Awst, er i’r mis hafaidd hwnnw hefyd gyflwyno ambell ddiwrnod i’n synnu.  Mi fu’n haf difrifol i wylio gloynod byw er enghraifft.  Felly hefyd pryfetach ar y cyfan.  Mae tri chwarter y coed eirin damson ger dalcen y tŷ ‘cw wedi methu dod a ffrwyth eleni, a hynny mae’n debyg oherwydd cyfnod gwlyb yn y gwanwyn pan oedd yn blodeuo, a’r pryfed a gwenyn sy’n arfer peillio wedi methu hedfan dros rhai o fisoedd gwlypaf yr ardal ers dechrau cofnodi’r tywydd.

Llun Paul W
Bu’n haf difrifol am ladd gwair hefyd, ac er mai silwair ydi rhan fwyaf y cnwd bellach, mantais y toriad hwyr ar ffermydd lle maent yn dal i gynaeafu gwair oedd rhoi cyfle i’r blodau ymysg y glaswellt i flodeuo’n llawn a rhoi sioe liwgar hen ffasiwn.  Ers 1945 collwyd 95% o weirgloddiau a dolydd blodeuog Prydain gan eu troi yn gaeau unffurf-unlliw gwyrdd, wedi eu haredig a’u hadu efo gweiriau amaethyddol a meillion gwyn, a’u gwrteithio yn ddwys nes colli’r amrywiaeth liwgar oedd wedi bodoli ers canrifoedd.  Collwyd eraill trwy adeiladu arnynt ond mae ambell lecyn a thalar sy’n werth eu gweld o hyd.

Ar un o’r ychydig ddyddiau braf aethom fel teulu bach am dro o Dyddyn Gwyn i lawr y llwybr rhwng terfyn y Neuadd Ddu a’r lein.  Roedd ymylon y llwybr yn gyfoeth o liw gyda blodau gwyllt diwedd Gorffennaf, gan gynnwys blodau sy’n tyfu dim ond ar hen groen, lle na fu gwrteithio nag aredig ers degawdau, fel pys y ceirw a’r pengaled, ac roedd ceiliog tingoch yn hedfan igam ogam o’n blaenau o gangen i gangen gan chwibanu.

Llun Paul W
Cyn cyrraedd gwaelod y llwybr troesom i fyny ac o dan y lein tuag at Benygwndwn.  Rhwng y lein a’r stâd tai yma mae safle y byddai rhai yn ei ddisgrifio fel tir diffaith, ond mewn gwirionedd roedd yn le bendigedig gyda gloynod byw fel y gwibiwr bach, gwrmyn y ddôl a iâr fach y glaw yn hedfan ymysg y grug.

Wrth gerdded ar hyd lwybr trol yr hen waith sets roedd yn bosib gweld blodau gwyllt amrywiol a chlywed grwndi parhaus ceiliog y rhedyn a chân cynhyrfus y dryw bach, sydd bob tro yn synnu gyda’r fath swn yn dod o aderyn mor eiddil.

Cerdded wedyn ar draws y cae y buom ni hogia Heol Jones, Dorfil a Fron Fawr, yn cerdded iddo ar hyd y lein i chwarae peldroed yn erbyn hogia’r Manod ‘stalwm, - ac oddi yno heibio clawdd isa’ mynwent Bethesda ac yn ôl i fyny’r Ffordd Goed wedi mwynhau ychydig o haul a gyda boddhad mawr o ail-ddarganfod safle natur hyfryd, reit ar gyrion y dre.

Darn o wynfyd mewn ffaith.
---------------------------------------------


Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

22.9.16

O'r Pwyllgor Amddiffyn -ydan ni'n rhy ddiniwed?

Y Frwydr yn parhau...

Dros y misoedd diwethaf mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi bod yn trefnu i gyfarfod gwleidyddion o bob plaid yn ddi-wahân, i geisio’u cefnogaeth i gadw’n deiseb yn fyw yn y Senedd yng Nghaerdydd ac i gael y Llywodraeth Lafur i edrych eto ar y ddarpariaeth iechyd anfoddhaol sy’n cael ei chynnig yn yr ardal hon erbyn heddiw. Rydym eisoes wedi derbyn cymorth ymarferol gan yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts a rhaid diolch hefyd i Janet Finch-Saunders, yr aelod Ceidwadol rhanbarthol dros Ddolwyddelan ac etholaeth Conwy, am wneud ei rhan hithau ar y Pwyllgor Deisebau newydd.

Rydym mewn cysylltiad â phob un o’n cynrychiolwyr rhanbarthol i geisio’u cefnogaeth hwythau - e.e. Simon Thomas (PC), Joyce Watson (Llafur) - ac yn ddiweddar caed cyfarfod efo Neil Hamilton, y cynrychiolydd UKIP, a derbyn addewid ganddo y byddai’n codi ein hachos ar lawr y Senedd. Ddiwedd y mis hwn byddwn hefyd yn cyfarfod Rhun ap Iorwerth, lladmerydd Plaid Cymru ar Iechyd, ac yn gobeithio mynd i lawr i Gaerdydd yn unswydd i lobïo cymaint â phosib o’r gwleidyddion yn fan’no.

15fed Medi 2016. Llun Paul W.
 ..............
Yn yr erthygl ddwytha, fe roddwyd adroddiad byr am ein cyfarfodydd efo Cynghorau Iechyd Cymunedol Gwynedd a Conwy. Erbyn hyn, mae rheini wedi anfon at y Bwrdd Iechyd i leisio pryderon am safon y gwasanaethau iechyd yn yr ardal hon ers cau’r Ysbyty Coffa. Yn ei atebiad iddynt, mae G.ary Doherty - Prif Weithredwr newydd arall, eto fyth! – yn cyfiawnhau’r sefyllfa trwy ddweud hyn:
Mae cleifion yn Ucheldir Cymru, sef yr ardal sy’n ymestyn o Ddolwyddelan i lawr at Drawsfynydd a thu hwnt, yn gallu trefnu apwyntiadau ymlaen llaw efo unrhyw feddyg o’u dewis yn y Practis ac mae hyn wedyn yn sicrhau parhâd gofal o dan law yr un meddyg. Mae cleifion yn gallu trefnu apwyntiad efo meddyg ar y diwrnod hwnnw ac mae 3 meddyg fel rheol ar gael i ddewis ohonynt.
Gall cleifion sydd wedi dioddef anaf nad yw’n rhy ddifrifol (‘minor injury’) dderbyn triniaeth yn y feddygfa yn Heol Wynne, heb orfod teithio i Alltwen neu Ysbyty Gwynedd.
Mae uned gofal-dros-dro wedi cael ei sefydlu yng nghartref Bryn Blodau yn Llan Ffestiniog ar gyfer cleifion sydd wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ond sydd heb fod yn ddigon da i gael eu hanfon adref i’w cartrefi eu hunain
[Dyma wasanaeth roedd yr Ysbyty Coffa yn arfer ei roi!]
O ddiwedd y mis hwn ymlaen, bydd nyrsys y gymuned ar alwad rhwng 8.00 y bore ac 8.00 yr hwyr a bydd y gwasanaeth hwn yn cynnwys rhaglen newydd o alwadau min nos.

Hynny ydi, be mae’r Prif Weithredwr hwn eto yn ei ddweud ydi y dylen ni roi’r gorau i gwyno, a derbyn yn ddiolchgar y gwasanaeth sydd ar gael inni bellach! Ond y cwestiwn y mae o, a gweddill swyddogion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwrthod ei ateb, dro ar ôl tro, ydi hwn –
‘Pam bod ardal Stiniog (h.y. Ucheldir Cymru) yn haeddu gwasanaeth iechyd sy’n sylweddol is-raddol i’r un a gaiff ei gynnig yn Nolgellau, Tywyn, Porthmadog, Pwllheli ac ardaloedd mwy Seisnig y glannau?’
Prif Weithredwyr y Betsi, ers i’r Bwrdd gael ei ffurfio yn 2008, fu Mary Burrows, Geoff Lang (dros dro), David Purt, Simon Dean, a rŵan Mr Doherty! A methiant fu pob un ohonyn nhw hyd yma, neu fyddai BIPBC ddim yn dal i fod o dan ‘special measures’ o Gaerdydd! Felly, onid ydi hi’n bryd gofyn y cwestiwn – Pam na chawn ni Gymro – Cymro Cymraeg hyd yn oed! - i lenwi’r swydd allweddol yma?

Mae un peth yn siŵr, fedra fo neu hi wneud dim gwaeth na’r hyn a gawsom ni hyd yma gan estroniaid llwyr sy’n gwybod dim byd o gwbwl am yr ardal, nac yn dymuno gwybod chwaith, yn ôl pob golwg. Ydan ni’n rhy ddiniwed fel cenedl, deudwch, ac yn rhy barod i godi het i’r bobol yma? Mae’n beryg ein bod ni!     -GVJ

20.9.16

Bwrw Golwg a Lloffion

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, detholiad o erthyglau gan Clifford Jones, ac W.Arvon Roberts.

Richard Jones. Ap Alun Mabon.
Clifford Jones. 
 
Ganwyd Richard Jones ym Mryntirion, Glanypwll, Blaenau Ffestiniog yn 1903, yn fab i Alun Mabon Jones. O’i ddyddiau cynnar dioddefodd o iechyd bregus iawn. Gyda’i ddiddordeb yn y gynghanedd enillodd lawer o gadeiriau trwy ledled Cymru.

Roedd yn frawd yng nghyfraith i fy mam, felly yncl Dic oedd o i mi. Bu farw ym 1940 pan oedd ond 37 mlwydd oed a minnau o ddeutu dwy flwydd a hanner pryd hynny. Mae gennyf gof plentyn o eistedd ar ei lin wrth ffenestr y tŷ ac edrych allan pan oedd yn fy ngwarchod, ac yn canu ‘Gee ceffyl bach yn cario ni’n dau’. Cof pleserus iawn.

Mae rhywfaint o’i farddoniaeth i’w gweld yn ei gyfrol goffa, sef Gwrid a Machlud (1941).
Ap Alun Mabon.
Drwy ei boenus oes drybini – y bedd
Aeth a’i boen a’i dewi;
O’i hael fro fe hawli fri
Un cawr ymysg ein cewri.
--------------------------

LLOFFION FFESTINIOG
W. Arvon Roberts.

1776
Dywedir i ffarmwr yng nghymdogaeth Ffestiniog farw yn 1766, yn 105 oed, yr hwn o’i wraig gyntaf, a gafodd 30 o blant; o’i ail wraig 10; ac o ddwy ddynes arall y bu’n godinebu â hwy, 7 o blant. Roedd ei fab hynaf  81 mlynedd yn hŷn na’r plentyn ieuengaf.

Roedd 800 o’i hiliogaeth yn bresennol yn ei angladd. Gofynnai un o’r enw John E. Jones, Penybont, yn yr adran Ymholiadau, yn y cylchgrawn ‘Golud yr Oes’, yn y flwyddyn 1889, am enw yr hen ffarmwr, ac enw’r ffarm roedd yn byw ynddo, ynghŷd ac unrhyw fanyion pellach. Yn anffodus, er chwilio a phori sawl cyfrol o’r cylchgrawn hwnnw, ni chafwyd unhryw ateb gan neb.

1843
Dydd Gwener, Mawrth 24, fel yr oedd Robert Roberts, Dolau Dywenydd, yn tywallt pylor i’r graig yng ngwaith llechi Samuel Holland, ger Ffestiniog, cydiodd y pylor dân rhywsut nas gwyddai neb yn iawn sut, nes chwythwyd ef i fyny amryw lathenni i ffwrdd, a disgynnodd yn ôl ar ei ben ar y graig, a bu farw yn y fan. Roedd yn aelod gyda’r Methodistiaid ym Metws y Coed; ac ystyrid ef bob amser yn addurn i’w broffes, yn siriol a difyr ei gyfeillach, ac yn gerddor rhagorol.
---------------------------------------

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


18.9.16

Cofleidio Ewrop a'r Sinema

Erthygl gan Emyr Glyn Williams. Y cyntaf mewn cyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i Uffarendwm Ewrop yn haf 2016.

Rhaid cyfaddef fy mod i, yn ddiweddar, wedi dechra teimlo’n genfigennus o drigolion ifanc Blaenau (mwy am hyn nes ymlaen). Yn gyntaf, a ninne yng nghanol cyfnod mwyaf cythryblus a thyngedfennol ein hanes fel aelodau o’r teulu Ewropeaidd, dwi am fachu ar y cyfle i rannu rhywfaint o bositifrwydd yn y testun hwn.

Pam? Wel, jest er mwyn ceisio lleddfu tamaid ar y boen o weld cynifer o’n cwmpas yn syrthio o dan ddylanwad meddylfryd cas, hiliol a senoffobic yr eithafwyr yna sy am ein gweld ni fel Cymry yn cefnu ar ein perthynas â gweddill y cyfandir. Digon o reswm i mi. Isio rhannu rhai o’r profiadau a theimladau sy wedi dychwelyd yn sgil penderfyniad i fynd ati i sgwennu llyfr yn Gymraeg sbel yn ôl am fyd sinema dramor, dyna i gyd dwi’n ei gynnig.

Mae Is-Deitla’n Unig wedi ei alw’n ‘llythyr cariad’ i ddiwylliannau estron gan rai, ac yn 'hunangofiant drwy ffilm' gan eraill, gan fy mod i yn plethu’r cariad hwn at ddiwylliant a bydolwg sinema ‘y lleill’ efo fy stori bersonol i yn tyfu i fyny yn Blaenau a gweithio gyda cherddoriaeth, ffilm a theledu Cymraeg dros y 30 mlynedd diwethaf.

Yn bersonol, dwi’n ddiffinio’r llyfr fel ymgais i normaleiddio dyhead sydd ynom fel pobl a chenedl (yn enwedig yr ifanc) i fod yn rhan o’r byd mawr y tu hwnt i ffiniau ein gwlad fechan. Yn dal i greu trwy’r Gymraeg, wrth gwrs, tra’n byw yn gydradd ac yn oddefgar ysgwydd wrth ysgwydd â’r holl diwyllianau eraill sy’n rhannu ein byd. 

Ro’n i’n credu wrth ysgrifennu’r llyfr fod y teimladau yma’n rhai ddigon cyffredin a synhwyrol, ond ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm, ma’ hi wedi dod yn amlwg fod y rhan fwyaf o’r boblogaeth allan yna (yng Nghymru hefyd) yn ei gweld hi’n anodd derbyn bod amrywiaeth diwyllianol yn beth positif.

Ond hoffwn ddadlau yma fod natur arbennig celf sinema’n medru gweithio i ailadeiladu’r teimlad hanfodol yna o fod yn perthyn i’n gilydd sydd yn amlwg wedi dirywo cymaint ers y bleidlais ar 24 Mehefin. Yn fy marn i, does ’na ddim dewis arall yn bodoli – gyda’n gilydd yw’r unig ffordd i deithio tua’r dyfodol, a chredaf mai sinema yw’r peiriant gora ar gyfer y dasg o hwyluso’r paratoadau ar gyfer ailgychwyn ar y siwrnai hon.

Ers cyhoeddi’r llyfr, dwi wedi profi ymateb uniongyrchol gan ddarllenwyr a beirniaid i’r pwnc, ac wedi ymfalchio mewn ymateb positif gan mwyaf, sy’n hapus i dderbyn bod sinema’n medru bod yn gelf yn ogystal ag yn fusnes; yn iaith rydym oll yn medru ei deall (gan mai’r lluniau sy’n siarad!); ac yn bwysicaf oll, cydnabyddiaeth ei bod hi’n gelf sy’n perthyn i bawb (dyna’r union reswm mae’n bodoli ym mhob twll a chornel o’r blaned).

Gan wybod o flaen llaw fod y rhinweddau yma’n dderbyniol, hoffwn eich annog chi ddarllenwyr Llafar Bro i wneud ymdrech o’r newydd i gofleidio byd ffilmiau a’i gwneud hi’n rhan o’ch bywyd bob dydd.    

Yn ôl at y cyfaddediad hwnnw o genfigen ar y cychwyn – wel, yn syml, mae un o’r peiriannau gwyrthiol dwi’n eu haddoli ar fin glanio yn Blaenau! Toedd ddim fath beth yn bodoli yn fy mhlentyndod i, a fedra i ddim gorbwysleisio gymaint o anhreg dwi’n credu fydd bodolaeth sinema i’r dref.

Mae wir angen diolch i griw CellB am gynnig y cyfle anhygoel hwn i brofi hud a gwefr bod yn rhan o gynulleidfa mewn sinema ‘go iawn’ unwaith eto. Nawr bydd cyfle rheolaidd i bob un ohonoch i brynu tocyn – i ddianc am gwpl o oriau wrth gwrs, ond hefyd i gael cyfle i brofi storïau o bob cwr o’r byd ar sgrin fawr yn eich cynefin a sylweddoli nad ydi clywed mwy am wahanol bobl a diwyllianau ym mhen draw’r byd yn gwneud dim heblaw dod â ni’n agosach et ein gilydd yn y pen draw. Un ddynoliaeth sydd, wedi’r cyfan, a chynnig tystoliaeth o’r ffaith hyfryd hon y mae celf sinema.

Mae ’na wyrthiau a phrofiadau bythgofiadwy yn aros amdanoch chi yn y stafell dywyll yna yn yr hen Orsaf Heddlu, a dwi’n eich annog i gefnogi’r fenter newydd hon o’r dechrau’n deg, yn enwedig pan mae’r arolygon y tu allan yn gaddo crebachu ar ehangu gorwelion. Buck the trends! Mynnwch eich lle, gofalwch amdani, defnyddiwch hi ac mi wneith hi ffynnu!

-- --
Cyrhaeddodd Isdeitla’n Unig gan Emyr Glyn Williams (Gwasg Gomer, £8.99) restr fer Llyfr y  Flwyddyn 2016, ac mae o dal ar gael yn eich siop leol.
-----------------------------------------

Ymddangosodd erthygl Emyr yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.

Mae rhifyn Medi ar gael yn y siopau a gan y dosbarthwyr tan ganol Hydref. Mae'r gyfres Ewropeaidd yn parhau efo erthyglau gan Dewi Prysor, Ifor Glyn, Sharon Jones, Mici Plwm, a'r Theatr Genedlaethol. 


16.9.16

Cyfres 'EWROP' 2016

O na fyddai’n haf o hyd

Cyflwyniad i gyfres o ysgrifau gwadd yn ymateb i refferendwm Ewrop.

Tywydd gwylio teledu, yn hytrach na thywydd crwydro a garddio gawson ni ddiwedd Mehefin a dechrau Gorffennaf eleni, felly golygu Llafar Bro fesul dipyn rhwng gemau peldroed Ewropeaidd, y tenis, a chymalau cyntaf y Tour de Ffrainc fues i tro ‘ma.

Roedd taith tîm peldroed Cymru trwy gystadleuaeth Euro 2016 yn rhyfeddol, ac yn gymysgedd o orfoledd, pryder ar adegau, chwerthin a cholli ambell ddeigryn wrth glywed canu’r anthem a darllen sylwadau pobl Ffrainc am ymddygiad cefnogwyr brwd a chyfeillgar Cymru fach.

Roedd yn braf gweld Cymdeithas Beldroed Cymru yn rhannu negeseuon yn Gymraeg ac mewn Llydaweg trwy gydol yr ymgyrch, yn ogystal â Saesneg a Ffrangeg. Agwedd Ewropeaidd iach iawn drwyddi draw.

Dagrau o dristwch oedd y rhai gollwyd dros ganlyniad Uffarendwm yr Undeb Ewropeaidd ar y llaw arall, a’r diffygion difrifol yn y cyfryngau Cymreig yn boenus o amlwg eto, wrth i bobl Cymru ‘saethu eu hunain yn eu traed’ chwedl y sylwebydd gwleidyddol craff Richard Wyn Jones.

Hawdd deall pam bod nifer o’n pobl ifanc yn gandryll bod carfan o’r boblogaeth hŷn –y rhai a gafodd grantiau llawn am addysg uwch, gwasanaeth iechyd da, sicrwydd gwaith a phensiwn, tai, sefydlogrwydd a heddwch- wedi pleidleisio am ddyfodol ansicr iawn ar eu cyfer nhw.

Ond mae’n dda gweld mudiadau fel Cymru Rydd yn Ewrop a Yes Cymru yn ymgyrchu’n gyflym i sicrhau nad ydi’n cenedl ni’n diflannu am byth i’r hunllef fyddai ‘Inglandandwêls’.  Cymaint ydi llanast San Steffan wrth i mi sgwennu hwn, pwy a ŵyr be’ fydd be’ erbyn i Llafar Bro eich cyrraedd, felly taw pia hi am rwan.


Rali Cymru Rydd yn Ewrop, 2 Gorffennaf 2016. Llun Paul W
---------------------------------------------

Llyfr y Flwyddyn
Llongyfarchiadau mawr i ddau o hogia’ Bro ‘Stiniog ar gyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016. Llenyddiaeth Cymru sy’n gweinyddu’r wobr, er mwyn cydnabod y gweithiau gorau yn y byd cyhoeddi bob blwyddyn, ac roedd yn wych gweld awduron lleol yn hawlio’u lle ymysg goreuon y genedl.

Roedd llyfr cyntaf Emyr Glyn Williams, Is-deitla’n Unig, ar restr fer yr adran ‘Ffeithiol-greadigol’,

... a nofel ddiweddaraf Dewi Prysor, Rifiera Reu, ar restr fer yr adran Ffuglen.





Yn ôl un o'r beirniaid eleni, mae llyfr Emyr "yn swyno; yn cyfareddu'r darllenydd efo diddordeb yr awdur yn ei destun ac yn rhyw lun o gofiant, efo elfen greadigol hefyd".

Sinema ydi’r testun hwnnw, ac roedd yn braf cael cynnwys erthygl gan Emyr yn rhifyn Gorffennaf.

Mae Dewi wedi ei ddisgrifio fel un sy'n "feistr ar ei dweud hi fel y mae hi", efo "arddull gyfangwbl unigryw", a Rifiera Reu yn "nofel a hanner". Ymddangosodd erthygl gan Dewi yn rhifyn Medi.

----------------------------------------------
Addasiad o ddarnau gan Paul Williams, a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2016 sydd uchod.

Yn rhifyn Medi roedd y gyfres Ewropeaidd yn parhau gydag erthyglau gan Dewi Prysor, Ifor Glyn, Mici Plwm, Sharon Jones, a'r Theatr Genedlaethol. 
-----------------

Dolen- Cyfres EWROP

 

14.9.16

Yr Ysgwrn -trefnu'r canmlwyddiant

Newyddion o Gartref Hedd Wyn

Yn 2017 bydd yn 100 mlynedd ers i Hedd Wyn gael ei ladd yn ‘heldrin’ y ffosydd yn Fflandrys a chael ei ddyrchafu’n symbol cenedlaethol o golledion y Rhyfel Byd Cyntaf.

O lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Penbedw yn 1917 ymgorfforwyd galar cenedl gyfan yng ngwneuthuriad y Gadair Ddu, a byth er hynny daeth pobl o bell ac agos i’r Ysgwrn i dalu gwrogaeth a chael teimlo’n rhan o’r hanes.

Byddwn fel Cymru’n cofio aberth y miloedd y flwyddyn nesaf drwy stori Hedd Wyn a’i negeseon oesol, ac mae nifer o ddigwyddiadau eisoes wedi eu trefnu led led y wlad a thu hwnt. Bydd cyngerdd agoriadaul Eisteddfod Genedlaethol Môn yn canolbwyntio ar stori Hedd Wyn a heddwch fel thema, ac mae plant ysgol, corau a grwpiau cymunedol eisoes yn cymryd rhan yn y paratoadau.

Bydd Yr Ysgwrn ei hun yn ail-agor yn y gwanwyn a byddwn yn paratoi gweithgareddau gydol y flwyddyn i adlewyrchu pwysigrwydd y canmlwyddiant. Ym Mhenbedw mae criw o bobl yn ystyried y ffordd orau i nodi’r achlysur yno, a byddwn fel swyddogion yr Ysgwrn yn cwrdd â hwy i drafod y posibiliadau.

Rhai o ddisgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn fu’n gweithio ar furlun clytwaith Yr Ysgwrn efo’r artsist Catrin Williams yn ddiweddar.
Mae Llywodraethau Cymru ac Iwerddon wrthi’n paratoi ar gyfer gwasanaeth arbennig yn Fflandrys ar Orffennaf 31ain 2017, can mlynedd union ers marwolaeth Hedd Wyn a Francis Ledwidge, bardd ifanc addawol o’r Iwerddon, ar faes y gad ymysg 4,000 o ddynion ifanc eraill.

Felly mae’r diddordeb yn eang, ond nid yw’r cofio’n fwy teimladwy nag yng nghymuned Trawsfynydd ei hun. Yn ddiweddar daeth criw o bobl yr ardal ynghyd i ddechrau trafod wythnos o weithgareddau i goffáu’r canmlwyddiant, a chaflwyd syniadau lu a brwdfrydedd iach i fynd ati i drefnu.

Bydd yr wythnos yn cychwyn efo’r Sioe Amaethyddol ym mis Medi 2017, ac yn gorffen ar y Sadwrn canlynol. Y gobaith yw i gynnal gweithgareddau fydd yn apelio at bob rhan o gymuned Traws a’r ardal ehangach, a chynnig cyfle i blant a phobl o bobl oed gymryd rhan mewn rhyw ffordd.
Os oes gennych syniadau ar gyfer yr wythnos, neu os hoffech fod yn rhan o’r trefniadau cofiwch gysylltu â Sian neu Jess yn y swyddfa, a gallwn basio’r neges ymlaen.
----------------------------------  

Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


12.9.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- erchylltra y Somme

Bu gwasanaethau yng Nghymru, Prydain a’r cyfandir eleni i gofio canrif ers brwydr erchyll y Somme. Yma mae Vivian Parry Williams yn parhau â’i gyfres, yn edrych ‘nôl ar y llythyrau oedd milwyr ‘Stiniog yn yrru adra o’r ffrynt.

Ar 22 Gorffennaf 1916, yn y golofn reolaidd yn Y Rhedegydd, 'Ein Milwyr', cofnodwyd hanes un o frwydrau mawr y rhyfel, Brwydr y Somme. Er i'r ymladd ddechrau yno ar 1 Gorffennaf, aeth tair wythnos heibio cyn cael unrhyw wybodaeth am y frwydr erchyll honno. Lladdwyd, neu anafwyd dros 60,000 o filwyr Prydain ar y dydd cyntaf o'r frwydr, a barhaodd hyd 18 Tachwedd.

Erbyn diwedd Brwydr y Somme, dywed i dros filiwn o filwyr, o'r ddwy ochr gael eu lladd neu eu hanafu. Yr oedd nifer fawr o filwyr o Gymru yn rhan o erchylltra un o frwydrau gwaethaf y Rhyfel Mawr.

Dyma ddywed gohebydd y papur yn ystod y dyddiau cynnar o'r frwydr:
“... wythnos o bryder mawr fu'r un ddiweddaf yn yr ardal hon a'r cylch, am ei bod yn wybyddus hefyd fod nifer fawr o'n bechgyn yn cymeryd rhan yn yr ymgyrch gyda'r 14th R.W.F, ac adrannau eraill, a phrofodd y newyddion ddaeth i law nad oedd y pryder hwnw ddim yn ddi-sail, a bod pethau gwaeth na'r gwir wedi ei ddweud mewn rhai achosion.”
Cyfeiriwyd wedyn at y llythyrau a ddaeth i law o gyfeiriad y mwynwyr, y rhai oedd yn cael eu defnyddio i dwnelu o dan ffosydd milwyr yr Almaen ar y pryd. Yr oedd adroddiadau wedi cyrraedd yn amlwg o'r brwydro mawr diweddaraf, gan greu pryder mawr ymysg anwyliaid y milwyr adref.

Disgrifir y golygfeydd yn dilyn yr ymladd ffyrnig, ac am effeithiau eraill y brwydro ar rai milwyr.
Daeth amryw lythyrau i law oddiwrth aelodau'r Meinars, a da gennym weled oddi wrthynt nad yw pethau lawn cyn waethed a'r si a aeth allan yn eu cylch. Ysgrifena Sapper Robert Humphreys, Manod Road at ei wraig o Ffrainc, a dyweyd ‘Yr wyf ar hyn o bryd mewn Hospital mewn pentref bychan tebyg iawn i bentref Cymreig. Nid ydwyf wedi fy nghlwyfo, ond wedi gyrru fy hun i lawr braidd. Yr oeddwn wedi cael fy mhenodi yn un o bedwar i ofalu am y Saps yn ystod y tânbelenu, a nos Iau daeth shell i fewn a chauwyd arnom yn y Sap, ac effeithiodd yr awyr drwg a'r shock ychydig arnaf, ond rwy'n disgwyl y byddaf yn barod i fynd yn ol at y bechgyn yfory.’"
Cofgolofn Llan Ffestiniog. Llun Paul W.
 Dychrynllyd oedd disgrifiad y Sapper R.M.Hughes, Ffordd Manod o'r un frwydr, dan bennawd Tranoeth y Frwydr Fawr'. Mae'n debyg ei fod yn cyfeirio at y ffrwydriad fwyaf a fu erioed i fyny i'r cyfnod hwnnw. Digwyddodd hynny ar 1 Gorffennaf 1916, pan fu i adran o'r mwynwyr oedd yn twnelu dan ffosydd yr Almaenwyr danio ffrwydriadau enfawr a elwid yn Lochnagar mine. Dywedir i'r ffrwydriad gael ei chlywed cyn belled i ffwrdd â Llundain. Lladdwyd miloedd gan y ffrwydriad.
'

Gadawn i Sapper Hughes ddisgrifio:
“...miloedd ar filoedd yn gorwedd yn domennydd a dim rhyfel mwy - cannoedd ar gannoedd o garcharorion yn pasio drwy'r dydd, a chlwyfedigion; ond diolch, dim ond dau o'r meinars o Ffestiniog...Y dydd o'r blaen roedd y lle rwyf ynddo yn llawn o ynau mawrion, a'r rhai hyny yn arllwys eu tân yn ddi-dor. Ond y mae y lle yn llawn o geffylau. Yfory, hwyrach y bydd yma ddim ond y ni yn aros. Rym wedi cael llwyddiant eithriadol...Da iawn genyf ddweud ein bod i gyd yn alright, a gobaith cryf y cawn ddod adref i gyd ryw ddiwrnod cyn bo hir. Brysied y dydd.”
Mewn llythyr arall ychydig yn ddiweddarach, dyma ddywedodd yr un milwr:
“Diolch i Dduw, mae y gwaethaf drosodd, a minnau yn fyw ac yn iach, ac erbyn hyn yn ddiogel o gyrraedd y gelyn, a'r hen bennill anwyl yn wir :     Y frwydr wedi troi
     Gelynion wedi ffoi.
 Rwyf yn credu fod ein gwaith ni wedi darfod. Yr ydym wedi gweithio yn galed iawn, ac mae'r gwaith ardderchog wedi ei goroni a llwyddiant. Gwnaethom achub miloedd ar filoedd o'n milwyr ni, a lladdasom filoedd o'r gelynion. Maent yn domennydd mewn Dug-outs wedi eu chwythu gan y meins, a golwg ofnadwy arnynt...”
Un o'r rhai oedd yn gwasanaethu gyda'r Royal Engineers yn Ffrainc oedd y Sarjant Phillip Woolford, mab Mr a Mrs Alf. Woolford, Penybont, Llan Ffestiniog. Cafwyd gwybodaeth yn rhifyn 22 Gorffennaf o'r Rhedegydd i Phillip dderbyn Tystysgrif Cymhwyster mewn defnyddio offer achub tanddaearol, ac am ddangos medusrwydd rhagorol yn y grefft. Ychwanegwyd ei fod wedi bod yn y ffrynt ers 18 mis, ac wedi ei anafu ddwywaith. Yn anffodus iddo, bu farw o'i anafiadau yn Ffrainc, ar yr ail o Hydref 1916. Cofnodwyd hefyd enwau nifer eraill o'r ardal a oedd wedi eu lladd neu eu clwyfo.
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


10.9.16

Y Dref Werdd- Cymuned a Chynefin


Erbyn hyn daeth y cwrs i ben ac mae criw o blant brwdfrydig a bywiog wedi cymryd rhan mewn chwe sesiwn ac wedi cael dysgu amrywiaeth o sgiliau gwahanol gan arbenigwyr lleol.

Daeth y syniad o ddatblygu’r sesiynau yma yn dilyn cwrs tebyg i oedolion cafodd ei ddatblygu gan Antur Stiniog rhai blynyddoedd yn ôl ac yn ddilyniant i’r Clwb Natur roedd Y Dref Werdd yn ei drefnu yn y gorffennol. Sesiynau llawn hwyl oedden nhw, ond wrth gael hwyl, roedd pawb yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gwahanol fel hanes, treftadaeth, yr amgylchedd, daeareg a bywyd gwyllt.

Yn y sesiwn cyntaf, aeth Twm Elias a’r criw allan i Landecwyn ar ddiwrnod braf lle cafwyd bob math o straeon difyr am yr ardal cyn darfod y diwrnod ar draeth Llandanwg, ger Harlech.

Yr adborth gan y plant ar ddiwedd y dydd i’w rhieni oedd, “Mae Twm Elias yn ôsym, mae o’n gwbod pob dim am bob dim”!!



Sesiwn ychydig mwy anturus oedd wedyn, gydag Iwan Cynfal yn arwain y plant i ddringo ar greigiau yn Nhanygrisiau iddynt gael blas o’r cyfoeth o weithgareddau awyr agored sydd ar gael ym Mro Ffestiniog.

Mae Catrin Roberts a Iona Price wedi bod wrthi yn chwilota am fwyd gwyllt sy’n tyfu o’n cwmpas ers rhai blynyddoedd bellach ac yn mynd ati i wneud jamiau, marmalêd a llawer o bethau blasus eraill. Felly, yn y trydydd sesiwn, aeth y criw allan i ardal Cwm Cynfal i ddarganfod planhigion blasus sydd ar gael yno, gyda phob plentyn yn casglu cynhwysion gwyllt eu hunain. Pan ddaeth y glaw, aeth pawb yn ôl i’r Ganolfan Gymdeithasol i ddefnyddio cegin y Gofal Dydd, a choginio pitsas cartref efo’r planhigion bwytadwy a gasglwyd i ychwanegu blas arbennig. Er y llanast oedd yn y gegin ar y diwedd, cafodd y plant fwynhad mawr !


Mae sgiliau gwylltgrefft, neu bushcraft  yn Saesneg, wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar, felly o dan oruchwyliaeth Hefin Hamer a Megan Thorman, aeth y plant i lawr i safle Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yng Ngwaith Powdwr, Penrhyn, lle cafwyd dysgu nifer o sgiliau newydd oedd yn cynnwys defnyddio cyllell i greu darnau o gelf, cynnau tân yn ddiogel, adeiladu ‘den’ a llawer mwy. Braf oedd gweld y plant yn cael dysgu gymaint â chael hwyl gyda Hefin a Megan, sydd â chymaint o arbenigedd i’w rannu.

Yn y ddau sesiwn olaf, bu Hefin a Megan yn chwilio am olion anifeiliaid i lawr ar yr aber ac o gwmpas Bro Ffestiniog, a bu Selwyn Williams a Maia Jones, Y Dref Werdd, yn son am dreftadaeth cyn gorffen yn y Pengwern am sesiwn greadigol.

Roedd pob un o’r plant sydd wedi bod yn rhan o’r sesiynau Cynefin a Chymuned yn derbyn tystysgrif Gwobr John Muir ar y diwedd fel cydnabyddiaeth o beth maent wedi ei ddysgu ar y cwrs arbennig hwn. Gwyliwch allan hefyd am arddangosfa’r plant yn oriel Antur Stiniog yn ystod mis Medi!

Os oes plant neu blentyn gennych chi a fydd gyda diddordeb ymuno â’r hwyl, cysylltwch gyda Daniel ar 01766 830 082 neu daniel[AT]drefwerdd.cymru

8.9.16

Hanesion Hynod Anti Cein -Y Pannwr

Pennod arall o hanesion Ceinwen Roberts. Y tro hwn, hanes William Edwards (Y Pannwr), Gellilydan. 

Yn William Edwards cefais adnabod y dyn mwyaf gonest a gwreiddiol. Ar ddiwrnod ei angladd gofynnodd ei weinidog ‘Beth tybed yw gwreiddioldeb cymeriad?’ Gwyddom nad trwy addysg mo’i hanfod mewn oes fel hon, a’i phwys mawr ar werth addysg. Ceid llawer mwy o bobl wreiddiol yn yr oesoedd a fu. Pobl yn brin eu manteision addysgol oedd rhain i gyd. Un o’r dosbarth hwn oedd William Edwards, neu Y Pannwr oedd pawb yn ei adnabod yn ardal Gellilydan.

Nid oedd yn debyg i neb, na neb yn debyg iddo yntau. Pannwr ydoedd wrth ei grefft, ac felly ei daid a’i dad o’i flaen. Ganed ym Mhandy Gwylan yn y flwyddyn 1874, yma treuliodd rhan helaeth o’i oes cyn symud i fyw i Preswylfa, Gellilydan ac fe’i claddwyd ym mynwent Utica, a dyma driongl daearyddol ei fywyd.

Crib y pannwr. Llun- Paul W

Mae'r ardal lle ganwyd ef yn gyfoethog ei thraddodiadau a gwreiddiau ei diwylliant yn myned ymhell iawn yn ôl. Dyma ardal Edmwnd Prys, Lowri William, Pandy’r Ddwyryd, Huw Llwyd o Gynfal, y Twrne Llwyd o Gefn Faes a Phlas Penglannau, a’r hynod William Ellis, ac hefyd John Humphrey Gwylan, ffermdy mewn lled cae i Pandy Gwylan lle cerdda cristnogion i addoli yn y tŷ yma yn amser boreuol iawn a’r crefydd yn yr ardal yma dan arweiniad Lowri William. Hoffwn i roi enw William Edwards yn oriel yr Hen Gymeriadau yma hefyd.

Fel hyn rwyf yn cofio y Pannwr. Yr oedd yn ddyn tal, tenau a’i war yn gwywo. Roedd edrychiad ei lygaid yn dreiddgar a bywiog, roedd yn ddyn ar ben ei hun hollol, ac hefyd roedd yn ŵr eang ei ddiddordebau ag anghyffredin ei arferion. Meddai ei Dad a’i Daid rhyw gyffur cyfrin i dynnu y “Ddafad Wyllt” ac fe etifeddodd William Edwards y gyfrinach ganddynt. Ar hyd ei oes bu yn defnyddion’r cyffyr hwn i wella rhai a ddioddefai oddiwrth yr anhwylder hwn.

Pwy yn ardal Gellilydan na chlywodd am “Eli Du Pannwr”? Deuai bobl ato o bell ac agos i gael meddyginiaeth, ac ni siomwyd neb. Cefais i dynnu “Dafad Wyllt” ar un o fysedd fy llaw dde ac mi fuodd yn llwyddiant, fel pob achos arall i bob un a gafodd y driniaeth. Dywedodd wrthyf fod tri math ar hugain o’r Ddafad Wyllt, a phob un yn gofyn triniaeth wahanol. Cyn iddo rhoi yr ‘Eli Du’ ar neb roedd rhaid iddo gael gwybod rhywbeth am drefn y corff y sawl oedd am ddefnyddio’r cyffyr yma. Roedd ganddo lawer o lyfrau ar iechyd y Ddynoliaeth, ac astudiodd rhain yn ofalus iawn.

Un tro meddyliodd y gallasai wella y ‘blood poison’ gyda chyffur y ‘Ddafad Wyllt’ ac fe wnaeth arbrofion trwy dorri darn o groen ei fawd a chyllell gan dywallt gwenwyn i’r toriad. Mewn byr iawn o funudau dyma’r gwenwyn yn dechrau treiglo i fyny ei fraich - yn lein goch a dioddefodd boenau ofnadwy, yna rhoddodd yr ‘Eli Du’ ar y toriad a mawr oedd ei lawenydd fod y gwenwyn yn cilio dan ddylanwad y cyffur, felly gwelodd y gallai rhoi trinfa ar bobl a oedd wedi cael gwenwyn yn eu gwaed.

Arferai ei Daid a’i Dad dynnu dannedd hefyd, cyn bod son am anaesthetic. Ni wn beth a feddyliai deintyddion modern ein hoes ni o’u harfau hwy sef tair gefail fawr o wahanol ffurf. Rwyf yn gwybod fod William Edwards wedi defnyddio’r rhain hefyd ar aml un o’r pentref yma ac yntau wedi ei eni a’i fagu yn swn peiriant y Pandy, naturiol oedd iddo gymryd diddordeb mewn peirianneg. Gwnaeth arbrofion lawer iawn gyda’r peiriannau melinau gwlan.

Ef hefyd oedd un o’r rhai cyntaf yn y cylch yma i brynu cerbyd modur, nid am ei fod yn ariannog nac yn rhodresgar, ond oherwydd ei hoffter o bob math o beiriant. Roedd y modur hwn yn gyfleus i gludo brethynnau o’r Pandy i wahanol ffatrioedd, a gyda’r modur yr aeth i briodi heb ddweud gair wrth neb, roedd y cerbyd yn llawn o flancedi rhag i’r cymdogion amau dim. Daeth yn ôl yr un noson gyda Margiad yn wraig iddo. Roedd pawb wedi rhyfeddu ei fod wedi priodi. Dyn fel yna oedd o, yn un fedr gadw cyfrinachau iddo ei hun.

Gwelwyd ef yn flaenor yng Nghapel Maentwrog Uchaf pan oedd yn gymharol ieuanc. Roedd Pannwr yn ŵr duwiol heb fod yn sych ddywiol. Gallai fwynhau ei hun yn dysgu drama i bobl ifanc. Cefais i y profiad yma gydag ef pan oeddwn yn byw yn Llech-y-Cwm ac wedi bod mewn amryw o’i ddramau. Cael digon o hwyl yn ymarfer yn festri’r capel. Rhoes ei orau i’r ardal.

Bu'n glerc y Cyngor Plwyf am gyfnod maith, hefyd bu'n aelod o Gyngor Dosbarth Deudraeth, ac hefyd yn aelod o fwrdd llywodraethwyr ysgolion cylch Ffestiniog. Roedd yn gymwynaswr, ac ato ef y rhedai bawb mewn argyfwng. Roedd bob amser yn ddoeth ei gyngor a chadarn ei farn. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel. Rhoddwyd ef i orwedd ym mynwent Utica gyda Margiad eilun ei galon, ar Hydref 2il 1950.

----------------------------------------

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2005 sydd uchod. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

6.9.16

Colofn y Merched- Gofalu am blanhigion tŷ

Pennod arall o gyfres Annwen Jones.
 

A ydych chi wedi meddwl am brynu ychydig o blanhigion i addurno’r ty?  Neu, yn hytrach na’u prynu, ofyn i’ch ffrindiau am dorriadau bach o’u rhai hwy i chi gael eu magu?  Rhowch y torriadau mewn dŵr hyd nes bo gwreiddiau’n tyfu ac yna planwch mewn pridd addas (megis compost 1 John Innes..)



Fe fydd angen tri pheth ar y planhigyn, sef golau, dŵr ac awyrgylch heb fod yn rhy sych.  I greu lleithder o amgylch y planhigion fe ellir unai chwistrellu’r dail efo dŵr (i rai planhigion yn unig) neu osod y potyn ar gerrig bach mewn soser o ddŵr.  Rhaid gofalu bod y dŵr yn y soser o dan lefel y potyn.


Mae’n rhaid i’r planhigyn gael golau eithr cofiwch nad yw pob un yn hoffi haul uniongyrchol.  Os yw’r planhigyn yn gwywo ar silff y ffenestr yna symudwch ef i le mwy cysgodol.


Mae’n bwysig hefyd rheoli faint o ddŵr a roir i blanhigyn.  Ni ddylid cael pridd sych na phridd sy’n socian.  Yn yr haf fe fydd angen dŵr tua dwy waith yr wythnos ond bydd angen llai yn y gaeaf.  Ac fel trît achlysurol i’ch planhigion rhowch ddŵr berwi ŵy neu loewon tatws iddynt.


Byddwch yn ofalus wrth fwydo gyda baby bio neu rywbeth cyffelyb.  Darllenwch y cyfarwyddiadau’n ofalus a pheidiwch a gor-fwydo.  Nid oes angen bwyd ar blanhigion sydd mewn compost newydd gan fod digon o faeth yn y pridd.



O gael gofal iawn mae planhigion tŷ yn medru dod a ffresni a gwyrddni i ystafell a gwneud iddi edrych yn llawer mwy deniadol.

--------------------------------------

 
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Lluniau- Paul W 

 

4.9.16

Peldroed. 1977 i 1980

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau.
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones).


1977-78
At y tymor 1977-78 penderfynodd y clwb gael tîm lleol eto gyda Billy Williams yn chwaraewr/reolwr a Glyn Jones yn gapten. Cynhaliwyd tîm wrth gefn hefyd. 

Dychwelodd Caernarfon i'r gynghrair ac ymunodd Conwy a Rhos Llandrillo, a gadawodd Bethesda.  Diweddwyd y cynllun Cynghrair Atodol.  Gwnaeth y tîm yn rhesymol dda a diweddu'r tymor ar ganol y tabl. 

Cawsant hwyl reit dda hefyd yn y cwpannau, a chyrraedd ffeinal Cwpan Alves. Rhoddwyd dwy gêm gwpan iddynt wedi canlyniadau cyfartal gan Brestatyn ac Abergele. 

Chwaraewyd cyfanrif o 40 gêm gan ennill deunaw ohonynt.  Bu Dafydd Jones, Y Bala a Steven Parry yn chwarae yn y gôl cyn i Penrhyn Jones, Llandudno ymuno am weddill y tymor.

Gareth Roberts (17), Richard Jones (18), Billy Williams (11) Glyn Davies a Carl Davies oedd y prif sgorwyr.  Chwaraeodd Steve Southall chwe gêm.


Cae Clyd. Llun- Paul W
1978-79
I raddau helaeth, yr un tîm oedd yn gweithredu ym 1978-79, gan ychwanegu David Hughes, Llandudno, (bachgen a chanddo gysylltiad â theulu Cemlyn, Stiniog), Dafydd Williams ac Ian Williams.  David Hughes, (Cemlyn) oedd y prif sgoriwr. 

Chwaraewyd 31 gêm, gan ennill deg.

1979-80
Lluchiwyd y polisi chwaraewyr lleol drwy'r ffenestr at dymor 1979-80, a'r prif chwaraewyr oedd Graham Jones, Peter Jackson, Terry Atkinson, Pete Davies, Alan Griffiths, Billy Williams (lleol), Tony Nabcurvis, Alan Wiliams, Mike McBurney a Nicky Hencher. Cafodd McBurney 26 gôl, Alan Williams 18, Billy Williams 13 a Hencher 10. 

Daeth llwyddiant y tro hwn fel huddugl i botes megis;  enillwyd y bencampwriaeth a hefyd Gwpan Alves a Chwpan Ganol Cymru.  Cyflenwyd y gamp hefyd o guro Porthmadog ddwywaith yn y Gynghrair.  Efallai y gellid dadlau nad oedd y clod arferol mewn ennill y bencampwriaeth yn y tymor hwn gan fod rhif y timau wedi gostwng i ddeg, ond ar y llaw arall, gellid hawlio bod y perfformiadau yn y cwpannau yn awgrymu y gallai tîm Graham Jones fod wedi gwneud yn dda mewn cwmni cryfach.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2007.
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


2.9.16

Stolpia -Clochyddion

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain, yn parhau â'i drafodaeth am glychau.

Os cofiwch, dechreuais son ychydig am glochyddion yn gyffredinol y tro diwethaf on'd o? Wel, y tro hwn rwyf am daflu ychydig mwy o olwg ar y swydd bwysig hon ac ar rai a fu'n ei gwneud am flynyddoedd lawer.

Yn y Genedl Gymreig am fis Ionawr 1932 ceir cyfeiriad at un James Williams, clochydd Llandegai, a fu'n ôl yr hanes, yn canu cloch yr eglwys i groesawu'r flwyddyn newydd i mewn am 78 mlynedd i gyd! Tybed a oes rhywun wedi torri'r record hon?

Clochyddion y Llan
Ymhlith y clochyddion a geid yn y Llan ers talwm, roedd rhai selog iawn. Bu Thomas Jones, Tŷ'n y Maes yn glochydd yna am 36 mlynedd cyn i un arall ganu ei gloch gnul yn 1929 pan oedd yn 80 mlwydd oed. Un arall a fu'n gwneud y swydd hon am 34 o flynyddoedd oedd Joseph Jones, Tŷ'n y Maes. Bu ef farw yn 65 mlwydd oed yn 1886, ac os nad wyf yn cyfeiliorni, roedd yn un o hynafiaid Mrs Enid Roberts, Bangor [gynt o Gae Clyd].

Eglwys Sant Mihangel, Llan ffestiniog. Llun Paul W

Yn ôl carreg fedd William Roberts, gof o Benybryn, Ffestiniog, bu yntau'n glochydd yn yr eglwys am 32 mlynedd. Bu ef farw yn 1851 yn 66 mlwydd oed. Os cofiaf yn iawn, bu William Henry Jones, taid Mrs Maureen D' Aubrey Thomas yn glochydd a thorrwr bedd yn Eglwys Sant Mihangel, hefyd, ond nid wyf yn sicr am ba hyd.

Yn ddiau, bu llawer o rai eraill yn glochyddion ffyddlon i'r eglwysi yn Y Llan, y Manod, Y Blaenau a Thanygrisiau pan oeddynt yn eu bri. Yn ei ysgrifau ar hanes cymeriadau 'Stiniog a'r cylch gan Glyn Myfyr ceir y canlynol am un a lysenwid 'Yr Hen Glochydd':
‘Edward Williams, Dorfil Street, Kings Head, ar ôl hynny, a gai ei adnabod gan bawb bob amser wrth yr enw 'Yr Hen Glochydd'.
Yr oedd ef yn gymeriad, credaf na fu iddo erioed gyrraedd y gwaith erbyn caniad yn y bore. Un tro roedd yn eithriadol hwyr, a chloch yr ysgol yn canu. Sylwodd y goruchwyliwr, "Oes gen ti ddim cwilydd Clochydd yn dod at dy waith yr amser yma o'r dydd mewn difri?" "Rwan mae'r gloch yn canu", meddai'r Clochydd. "Ie, ond cloch yr ysgol yw honna", meddai' r goruchwyliwr. "Waeth i ti pa gloch wyt ti'n ei glywed", meddai yntau.’
O ddarllen y bennod 'Yr Hen Glochyddion' yng nghyfrol 'Ar Lawer Trywydd' (1973) gan Gwynfryn Richards gwelir fod amryw ohonynt â sawl swydd arall i'w wneud yn ogystal a bod yn glochydd. Er enghraifft, roedd John Jones, sef Ioan Garmon o Lanarmon yn glochydd, casglwr trethi, cerfiwr ac yn ysgolfeistr. Roedd William Roberts, Llannor yn arddwr, yn ysgolhaig ac yn rhwymwr llyfrau, a Sion Ifan, Penmachno yn llythyr-gludydd.

Clochydd Pren

Ar un adeg defnyddid math arall o glochydd i gynorthwyo gyda chaniadaeth yr eglwys mewn ambell blwyf, sef un wedi ei wneud o bren. Ei ddiben oedd helpu i yngan Amen trwy ddynwared llais dynol a gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithiol.

Math ar offeryn awtomatig oedd y clochydd hwn ac os tarai'r offeiriad ei droed ar ran ohono seiniai yntau A-men yn union fel llais dynol a gellid ei glywed yn eithaf clir drwy'r adeilad, yn ôl pob son. Arferid un o'r offerynau hyn yn Eglwys Hirnant ger Llangynog, Powys ar un adeg.

Dyrna hen rigwm amdano:
Amen, clochydd pren,
Dannedd priciau yn ei ben.
Tybed a oes un o'r dyfeisiadau hyn ar gael yn rhywle heddiw. Oes 'na un yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan neu'n ymhlith hen greiriau'r eglwys?

-------------------------

O.N.  Clychau a Chlochyddion*
Dyma un neu ddau o bethau a ddaeth i law amdanynt yn dilyn fy sylwadau blaenorol.  Yn gyntaf, diolch i’m cyfeillion yn Archifdy Meirion, Dolgellau am dynnu’n sylw at ‘Y Gloch Un’ a alwai gweithwyr ardal Dolgellau gynt yn ôl at eu gwaith wedi iddynt giniawa.  Hefyd ‘Y Gloch Naw’ a weithredai fel hwyrgloch (curfew) a chloch i alw’r morynion adref ... gan y byddai’n amod yn rhai o dai y dref iddynt gyrraedd yn ôl at 9 o’r gloch ... yr hwyr, wrth gwrs.

Cefais glywed gan Mr D. Hughes (Deio), Ffordd Wynne fod cloch wedi bod ar un adeg ar bostyn neu fur gerllaw’r Swyddfa Post (y Post Mawr).  Rhyw gof hogyn sydd ganddo ohoni, a pheth da fyddai cael cadarnhad o hyn.  Pwy a wyr, efallai bod llun ohoni’n rhywle?

Yn olaf, deuthum ar draws y cofnod canlynol tra’n chwilota am rywbeth hollol wahanol:
Ar Fai 23, 1853 bu farw Robert Jones, Clochydd Trawsfynydd.  Cymerodd ran ym medyddio 1400 o bersonau, 600 o briodasau a 1,500 o angladdau!  
Pwy all ddweud mwy o’i hanes wrthym, neu’n wir, hanes un o glochyddion eraill Bro Ffestiniog?
 -------------------------


Ymddangosodd yr erthygl uchod yn rhifyn Ebrill 1999. * Cafwyd y diweddariad wedyn yn rhifyn Mai 1999.