26.11.16

Plygain Dalgylch Llafar Bro

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams a Tecwyn Vaughan Jones am hen draddodiad y Plygain, a thraddodiad newydd cynnal y gwasanaeth unigryw ym Mro Ffestiniog.

[<--  Cofiwch am wasanaeth Plygain eleni!] 

Croesawyd Gwasanaeth Y Blygain Dan yr Hen Drefn i Eglwys y Bowydd am y tro cyntaf, ar y 29ain o Dachwedd y llynedd. Mae i’r traddodiad Cymreig hwn hanes godidog.

Mewn llawer rhan o Gymru, golygai’n wreiddiol godi’n gynnar iawn ar ddydd Nadolig er mwyn mynychu’r gwasanaeth Plygain yn eglwys y plwy’.

Amrywiai awr y Blygain rhwng 3 a.m a 6 a.m, ac i aros am y gwasanaeth byddai pobl ifanc yn enwedig, yn ymhél â phob math o arferion i ddifyrru eu hunain.  Cred rhai mai o'r gair Lladin pullicantio y daw'r gair 'plygain', sef  'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr adeg cychwyn. Roedd yr oriau yma cyn y plygain, felly, yn rhai cymdeithasol iawn. 

Yng nghefn gwlad deuai pobl o’r mannau mwyaf anghysbell yn y plwy’ i’r Blygain. Yn aml cludent eu canhwyllau a’u lampau eu hunain er mwyn goleuo’r eglwys yn yr oriau tywyll. Yn Llanfyllin ceid canhwyllau arbennig at y Plygain ac yn Nolgellau gwisgid y canhwyllau â chelyn ac yn Llanfyllin câi cannoedd o ganhwyllau eu gosod yn agos i’w gilydd. Ym Maentwrog, caent
"eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad."
Mae gwasanaeth y Blygain yn oroesiad o’r gwasanaeth Nadoligaidd oedd yn bodoli cyn y Diwygiad Protestanaidd ac yn wreiddiol fe’i cysylltid â gwasanaeth cymun a gynhelid yn hwyrach ar fore Nadolig.

Dywed J. Lloyd Williams (1854 1945) am blygain Eglwys Sant Doged ger Llanrwst:
"Er bod y clochydd yn gofalu am ganhwyllau, byddai rhai o’r cantorion yn mynd â’u canhwyllau eu hunain i’r gwasanaethau, er mwyn cael digon o olau i weld y copïau ysgrifen y canent oddi arnynt; ac i ddal y canhwyllau gofelid am fynd â digon o glai yn lle canwyllbrennau."
A dyma ddisgrifiad William Payne o blygain Dolgellau tuag 1850:
Yn awr y mae'r eglwys yn wenfflam; yn awr o dan ei sang, gorff, ystlysau, oriel; yn awr wele Siôn Robert, y crydd troed-gam, a'i wraig, gan ddod i lawr o'r sedd ganu i ran isaf a blaenaf yr oriel, yn taro bob yn ail y garol hirfaith a'r hen ffefryn yn disgrifio Addoliad y Brenhinoedd a'r Doethion, a'r Ffoad i'r Aifft, ac anfadrwydd ofnadwy Herod. Hollol ddistaw yw'r tyrfaoedd ac wedi ymgolli mewn edmygedd.... A'r gweddïau trosodd, cychwynna'r cantorion eto ragor o garolau, cantorion newydd, hen garolau mewn unawdau, deuawdau, triawdau, cytganau, yna distawrwydd yn y gynulleidfa, wedi ei dorri ar seibiau priodol gan rwystrus furmur yr hyfrydwch a'r gymeradwyaeth, nes rhwng wyth a naw, a newyn yn dweud ar y cantorion, y mae'r Plygain drosodd a thery'r Clych ganiad llawn.
I ddieithryn mae’r Plygain yn brofiad anarferol. Am tua dwyawr, mae’r gwasanaeth yn gyfan gwbl yn nwylo’r carolwyr. Does dim rhaglen a does dim cyhoeddwr, ond, yn eu tro, daw partïon o garolwyr ymlaen yn ddistaw i ganu. Ar gyfartaledd ceir tua wyth i bedwar ar ddeg o bartïon ac mae rhywun yn debygol o glywed tua ugain i ddeg ar hugain o garolau gwahanol, i gyd yn Gymraeg.

Carolau Y Blygain
Fel arfer mae'r caneuon Plygain mewn cynghanedd o dri neu bedwar llais. Yn wreiddiol, partïon o ddynion yn unig oedd yn cymryd rhan ac roedd y cantorion yn dod o'r un teulu. Gan fod cymaint o benillion i’w cofio, yna cedwid copi o’r geiriau mewn llyfr ymarfer. Benthyciad o gân werin boblogaidd oedd yr alaw yn aml ac fe’i cenir yn ddigyfeiliant bob amser. Ymhlith y beirdd enwocaf am lunio carolau plygain mae Huw Morus (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain). Ar ddiwedd y gwasanaeth daw y dynion ymlaen i gyd-ganu Carol y Swper ac i fanteisio wedyn ar y wledd fydd yn aros amdanynt.

Mae’r Plygain yn un o’n traddodiadau gwerin sydd ar gynnydd unwaith eto.

Yn Eglwys y Bowydd y llynedd, roedd y rhan agoriadol yng ngofal y Parch Anita Ephraim ac ymunodd y gynulleidfa i ganu carol a chyhoeddi ‘Mae’r Blygain yn awr yn agored’. Cymerwyd rhan gan Lowri ac Awel Jones, Capel Bowydd; Parti Bethel, Llan Ffestiniog; triawd - Derfel Roberts, Patrick Young ac Iwan Morgan; unawdau gan Emyr Pugh, Llanuwchllyn ac Iwan Morgan; Côr Cymysg Blaenau Ffestiniog a’r Cylch; a Meibion Prysor, Trawsfynydd.

Cafwyd blas annisgwyl ar y traddodiad gwreiddiol pan gollwyd y trydan am sbel a phan fu’n rhaid i’r plygeinwyr chwilio am lampau a chanhwyllau. Ond byr fu’r toriad.  Yn bresennol yn y cyfarfod roedd cynrychiolaeth o holl eglwysi’r cylch gan gynnwys yr Esgob Edwin Regan, Eglwys San Magdalen, a’r Parch David Brownridge, Eglwys Dewi Sant. Ni allai’r Tad Deiniol fod yn bresennol. Mrs Wenna Francis Jones oedd yn cyfeilio i’r canu cynulleidfaol.

Estynnwyd croeso a phaned cyn troi am adref, gyda chwiorydd gwahanol eglwysi’r dref yn gweini. Diolchwn i swyddogion Eglwys Bowydd am estyn croeso mor dwymgalon, ac eisoes mae cynlluniau ymlaen at blygain 2016, ar Nos Sul cynta'r Adfent, y 27ain o Dachwedd, yng Nghapel y Bowydd am 7 o'r gloch. 
--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2016 (addaswyd i adlewyrchu'r dyddiadau).
Edrychwch am erthyglau eraill am y Blygain efo'r ddolen isod, neu roi Plygain yn y ffenest chwilio ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon