27.8.12

Dyddiad cau rhifyn Medi

Mae'r dyddiad cau yn nesau...
Dydd Gwener, y 1af o Fedi.

Cofiwch yrru popeth i'w deipio i Siop Lyfrau'r Hen Bost, neu trwy ebost at y golygydd (gweler dudalen Pwy ydi Pwy? am fanylion).

 
Dyma lun prin o ddau drên stêm yn yr orsaf yr un pryd, a dynnwyd ar Awst 21ain eleni.
The Great Marquess  ydi’r injan fawr sydd ar y lein fawr yn y cefn. Un o gyfres o drenau fydd yn ymweld â’r Blaenau yn ystod Awst a Medi, medden nhw. 
Llun gan VPW. 


16.8.12

Newyddion..




Llawer iawn o bethau'n mynd ymlaen ar hyn o bryd, Dyma'r diweddaraf o sawl maes, a dolenni :

cerfluniau Diffwys
Y gwaith ar y stryd fawr yn altro'n arw - gweler y manylion ar y wefan:
http://www.blaenauffestiniog.org/cym/home.html
a'r diweddaraf ar Gweplyfr      http://www.facebook.com/blaenauffestiniog


Ar dy feic.
Llwybrau beicio newydd Antur Stiniog wedi bod yn brysur iawn yn yr wythnosau cyntaf.

Manylion ar eu gwefan: http://www.anturstiniog.com/
a'r diweddaraf ar eu ffrwd newyddion gweplyfr:        http://www.facebook.com/anturstiniog.cyf




Mae'r Queens wedi marw: Hir oes i 'Ty Gorsaf'.
Hen Westy'r Frenhines hefyd yn dechrau edrych yn wahanol iawn, ac addewidion am drawsnewidiad mawr mewn sawl ystyr yno. Dyma edrych ymlaen i weld dyddiau da yno eto.

http://www.facebook.com/pages/Gwesty-Ty-Gorsaf-Hotel/251533784958062



Bywyd newydd i'r Meirion hefyd.
Er gwaethaf sibrydion am ddiffyg brwdfrydedd y bragdy i wario ar y Meirion, yn sgil ail-ddatblygiad uchelgeisiol Ty Gorsaf, mae'n debyg fod y ddau dafarn ar fin ail-agor ar ol eu hail-wampio.

14.8.12

Stolpia

Darn o erthygl Steffan ab Owain a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2012:


Corn carw
 Yr wyf wedi meddwl sôn am y canlynol ers peth amser gan obeithio y gall un ohonoch chi ddatrys y dirgelwch. Yn ei chyfrol Pagan Celts (1996 ) gan Dr Anne Ross ceir llun o gorn carw gyda cherfiadau diddorol arno a dywedir mai yng nghyffiniau Blaenau Ffestiniog y darganfuwyd ef. 
Cerfiadau o wynebau pobl ydynt ac mae’r corn yn dyddio o gyfnod yn ein cynhanes. Ar wahân i’r cyfeiriad hwn, ni fedraf ddweud imi weld dim amdano yn unman arall na chlywed amdano gan neb o gwbl.


Yr unig gyfeiriad arall y gwn i amdano parthed cyrn carw yw’r nodyn yn atgofion Bryfdir sef ‘Bro fy Mebyd’ a ymddangosodd yn Y Rhedegydd, Gorffennaf 22ain, 1937.

 Ysgwn i beth a ddigwyddodd i’r rheiny ? A ydynt wedi diflannu oddi ar wyneb y ddaear ac i ebargofiant, neu a gawson nhw gartref arall a’u diogelu gan rywun a meddwl ohonynt? 
Anfonwch air os ydych â gwybodaeth amdanynt hwy neu’r un a cherfiadau arno.

2.8.12

Sgotwrs Stiniog

Rhai o blant Tanygrisiau yn mwynhau diwrnod o bysgota ar Lyn Ffridd y Bwlch. 
Cafodd y plant gyfle i ddysgu sut i bysgota gyda phluen a gydag abwyd, yn ogystal ag arddangosiad sut i gawio plu gan Cecil Daniels o Gymdeithas Enweiriawl y Cambrian. 


Cafwyd diwrnod gwerth chweil gan bawb. Diolch i'r Dref Werdd, Ffederasiwn Pysgotwyr Cymru a Chymdeithas Enweiriawl y Cambrian am eu cymorth wrth drefnu’r diwrnod.